Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:16-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall?

17. Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?

18. Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.

19. Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau:

20. Dyma'r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.

21. A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.

23. Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.

24. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25. Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi.

26. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara'r plant, a'i fwrw i'r cŵn.

27. Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae'r cŵn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.

28. Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.

29. A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30. A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:

31. Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32. A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33. A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?

34. A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35. Ac efe a orchmynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15