Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd,

2. Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara.

3. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?

4. Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw.

5. Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.

6. Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.

7. O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd,

8. Nesáu y mae'r bobl hyn ataf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15