4. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.
5. Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear:
6. Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.
7. A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a'r drain a godasant, ac a'u tagasant hwy.
8. Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.
9. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10. A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?
11. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
12. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.
13. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.