29. Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu'r efrau, ddiwreiddio'r gwenith gyda hwynt.
30. Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
31. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a'i heuodd yn ei faes:
32. Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.
33. Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
34. Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt;
35. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.
36. Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau'r maes.
37. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau'r had da, yw Mab y dyn;
38. A'r maes yw'r byd; a'r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;
39. A'r gelyn yr hwn a'u heuodd hwynt, yw diafol; a'r cynhaeaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw'r angylion.