10. A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?
11. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
12. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.
13. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.
14. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;
15. Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt.
16. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed: