Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?