Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 11:15-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

16. Eithr i ba beth y cyffelybaf fi'r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17. Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18. Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

19. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20. Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:

21. Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw.

22. Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.

23. A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw.

24. Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25. Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio ohonot i rai bychain:

26. Ie, O Dad; canys felly y rhyngodd fodd i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 11