Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:34-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â'i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.

35. Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.

36. Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37. Pwy bynnag a dderbynio un o'r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.

38. Ac Ioan a'i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39. A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.

40. Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae.

41. Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9