Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:25-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef.

26. Ac wedi i'r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27. A'r Iesu a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd; ac efe a safodd i fyny.

28. Ac wedi iddo fyned i mewn i'r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o'r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.

30. Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb.

31. Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd.

32. Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.

33. Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34. Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â'i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.

35. Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.

36. Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37. Pwy bynnag a dderbynio un o'r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.

38. Ac Ioan a'i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39. A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.

40. Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9