15. Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo.
16. Ac efe a ofynnodd i'r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich plith?
17. Ac un o'r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo:
18. A pha le bynnag y cymero ef, efe a'i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae'n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
19. Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi.
20. A hwy a'i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a'i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn.
21. A gofynnodd yr Iesu i'w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.
22. A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym.
23. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r neb a gredo.
24. Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.
25. A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef.
26. Ac wedi i'r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.
27. A'r Iesu a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd; ac efe a safodd i fyny.
28. Ac wedi iddo fyned i mewn i'r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o'r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
30. Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb.
31. Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd.
32. Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33. Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd?
34. Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â'i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.
35. Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.