Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o'r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2. Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a'u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o'r neilltu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt.

3. A'i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.

4. Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu.

5. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un.

6. Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef.

8. Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt.

9. A phan oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9