1. Yn y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt,
2. Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta:
3. Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell.
4. A'i ddisgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni'r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch?
5. Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.
6. Ac efe a orchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl.
7. Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi'r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.
8. A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid.
9. A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.
10. Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda'i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11. A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nef, gan ei demtio.
12. Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna'r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genhedlaeth yma.
13. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i'r lan arall.