Hen Destament

Testament Newydd

Marc 7:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.

10. Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw'r farwolaeth.

11. Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd.

12. Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i'w dad neu i'w fam;

13. Gan ddirymu gair Duw â'ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14. A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch.

15. Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw'r pethau sydd yn halogi dyn.

16. Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.

17. A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg.

18. Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef?

19. Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu'r holl fwydydd?

20. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 7