Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:40-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.

41. Ac wedi cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.

42. A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.

43. A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o'r briwfwyd, ac o'r pysgod.

44. A'r rhai a fwytasent o'r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.

45. Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.

46. Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i'r mynydd i weddïo.

47. A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir.

48. Ac efe a'u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.

49. Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.

50. (Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch.

51. Ac efe a aeth i fyny atynt i'r llong; a'r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.

52. Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

53. Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant.

54. Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i hadnabuant ef yn ebrwydd.

55. Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.

56. Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6