Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:3-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Onid hwn yw'r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.

4. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

5. Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'u hiacháu hwynt.

6. Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.

7. Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan;

8. Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i'r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:

9. Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais.

10. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno.

11. A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

12. A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau:

13. Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a'u hiachasant.

14. A'r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

15. Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o'r proffwydi.

16. Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw.

17. Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6