Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:29-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd.

30. A'r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.

31. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.

32. A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o'r neilltu.

33. A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef.

34. A'r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.

35. Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd:

36. Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r wlad oddi amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.

37. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta?

38. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn.

39. Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt.

40. A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.

41. Ac wedi cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.

42. A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.

43. A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o'r briwfwyd, ac o'r pysgod.

44. A'r rhai a fwytasent o'r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.

45. Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6