16. Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw.
17. Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi.
18. Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd.
19. Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd:
20. Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
21. Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i'w benaethiaid, a'i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea:
22. Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.
23. Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.
24. A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.
25. Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.
26. A'r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef.
27. Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef.