16. A phan welodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid ef yn bwyta gyda'r publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?
17. A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18. A disgyblion Ioan a'r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
19. A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo'r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
20. Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
21. Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.
22. Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23. A bu iddo fyned trwy'r ŷd ar y Saboth; a'i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu'r tywys.
24. A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon?
25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gydag ef?
26. Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef
27. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth:
28. Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.