8. A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.
9. A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
10. (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)
11. A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.
12. A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
13. A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.
14. Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
15. A Pheilat yn chwennych bodloni'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a'r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groeshoelio.
16. A'r milwyr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin;
17. Ac a'i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben;
18. Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon.
19. A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.