45. A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff.
46. Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dododd ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47. A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.