Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:4-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.

5. Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat.

6. Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo.

7. Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda'i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.

8. A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.

9. A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?

10. (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)

11. A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12. A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?

13. A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.

14. Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.

15. A Pheilat yn chwennych bodloni'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a'r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groeshoelio.

16. A'r milwyr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin;

17. Ac a'i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben;

18. Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon.

19. A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.

20. Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan i'w groeshoelio.

21. A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15