Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:37-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A'r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â'r ysbryd.

38. A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.

39. A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.

40. Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;

41. Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a'i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.

42. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,)

43. Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.

44. A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin.

45. A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15