Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:32-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a'i difenwasant ef.

33. A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

34. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

35. A rhai o'r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.

36. Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i'w dynnu ef i lawr.

37. A'r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â'r ysbryd.

38. A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.

39. A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.

40. Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;

41. Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a'i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.

42. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,)

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15