Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:25-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A'r drydedd awr oedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.

26. Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON.

27. A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo.

28. A'r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda'r rhai anwir.

29. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio'r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,

30. Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes.

31. Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda'r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared.

32. Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a'i difenwasant ef.

33. A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

34. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

35. A rhai o'r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15