23. Ac a roesant iddo i'w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth.
24. Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
25. A'r drydedd awr oedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.
26. Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON.
27. A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo.
28. A'r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda'r rhai anwir.
29. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio'r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,