22. A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle'r benglog:
23. Ac a roesant iddo i'w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth.
24. Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
25. A'r drydedd awr oedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.
26. Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON.
27. A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo.