1. Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, a'r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo'r Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant at Peilat.
2. A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
3. A'r archoffeiriaid a'i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim.
4. A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.
5. Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat.
6. Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo.
7. Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda'i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
8. A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.
9. A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
10. (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)
11. A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.