38. Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.
39. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.
40. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo.
41. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
42. Cyfodwch, awn; wele, y mae'r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
43. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o'r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.
44. A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.
45. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.
46. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.
47. A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.
48. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?
49. Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni'r ysgrythurau.
50. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
51. A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a'r gwŷr ieuainc a'i daliasant ef.
52. A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.