Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:31-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.

32. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.

33. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr.

34. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch.

35. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?

38. Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.

39. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.

40. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo.

41. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.

42. Cyfodwch, awn; wele, y mae'r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o'r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.

44. A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.

45. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.

46. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.

47. A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.

48. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?

49. Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni'r ysgrythurau.

50. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

51. A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a'r gwŷr ieuainc a'i daliasant ef.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14