3. A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.
4. Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?
5. Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi.
6. A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi.
7. Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
8. Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
9. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10. A Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.
11. A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
12. A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta'r pasg?