Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:25-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

27. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a'r defaid a wasgerir.

28. Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.

29. Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi.

30. A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.

31. Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.

32. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.

33. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr.

34. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch.

35. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14