20. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe.
21. Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid.
22. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.
23. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono.
24. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer.
25. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
27. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a'r defaid a wasgerir.
28. Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.
29. Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi.