Hen Destament

Testament Newydd

Marc 12:18-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,

19. Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.

20. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had.

21. A'r ail a'i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a'r trydydd yr un modd.

22. A hwy a'i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o'r cwbl bu farw'r wraig hefyd.

23. Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.

24. A'r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw?

25. Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd.

26. Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?

27. Nid yw efe Dduw'r meirw, ond Duw'r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni'n fawr.

28. Ac un o'r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?

29. A'r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:

30. A châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth. Hwn yw'r gorchymyn cyntaf.

31. A'r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na'r rhai hyn.

32. A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:

33. A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.

34. A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.

35. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?

Darllenwch bennod gyflawn Marc 12