Hen Destament

Testament Newydd

Marc 12:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl:

11. Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni.

12. A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.

13. A hwy a anfonasant ato rai o'r Phariseaid, ac o'r Herodianiaid, i'w rwydo ef yn ei ymadrodd.

14. Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?

15. Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi.

16. A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.

17. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o'i blegid.

18. Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,

19. Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.

20. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had.

21. A'r ail a'i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a'r trydydd yr un modd.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 12