1. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd le i'r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
2. Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.
3. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrasant ymaith yn waglaw.