10. Bendigedig yw'r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.
11. A'r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i'r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda'r deuddeg.
12. A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd.
13. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.
14. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A'i ddisgyblion ef a glywsant.
15. A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A'r Iesu a aeth i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau'r arianwyr, a chadeiriau'r gwerthwyr colomennod:
16. Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy'r deml.
17. Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw'n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
18. A'r ysgrifenyddion a'r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
19. A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o'r ddinas.
20. A'r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.