1. Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2. Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
3. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn yma.
4. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.
5. A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?
6. A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith.
7. A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.