Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:6-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.

7. Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;

8. A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.

9. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.

10. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.

13. A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14. A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

16. Ac efe a'u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.

17. Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?

18. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.

19. Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.

20. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o'm hieuenctid.

21. A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.

22. Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23. A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â'r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!

24. A'r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i'r rhai sydd â'u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!

25. Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau'r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10