Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:32-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

33. Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:

34. A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr atgyfyd.

35. A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem.

36. Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37. Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.

38. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i ag ef?

39. A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwpan yr yfwyf fi; ac y'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finnau:

40. Ond eistedd ar fy neheulaw a'm haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i'r rhai y darparwyd.

41. A phan glybu'r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan.

42. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10