Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:27-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A'r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.

28. Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.

29. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl,

30. A'r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol.

31. Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a'r diwethaf fyddant gyntaf.

32. Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

33. Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:

34. A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr atgyfyd.

35. A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem.

36. Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37. Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.

38. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i ag ef?

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10