Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gydag ef;

2. A gwragedd rai, a'r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr aethai saith gythraul allan;

3. Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.

4. Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg:

5. Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a'i bwytaodd.

6. A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.

7. A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a'r drain a gyd‐dyfasant, ac a'i tagasant ef.

8. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon?

10. Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8