25. Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26. Eithr beth yr aethoch allan i'w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd.
27. Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.
28. Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29. A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
30. Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31. A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?
32. Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33. Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
35. A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o'i phlant.