Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:28-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant.

29. Ac i'r hwn a'th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.

30. A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo'n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.

31. Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.

32. Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru'r rhai a'u câr hwythau.

33. Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34. Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35. Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.

36. Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37. Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemniwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38. Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39. Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

40. Nid yw'r disgybl uwchlaw ei athro: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro.

41. A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42. Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43. Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.

44. Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.

45. Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a'r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6