Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:26-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi.

27. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt:

28. Bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant.

29. Ac i'r hwn a'th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.

30. A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo'n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.

31. Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.

32. Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru'r rhai a'u câr hwythau.

33. Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34. Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35. Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.

36. Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37. Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemniwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38. Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39. Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6