23. Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r proffwydi.
24. Eithr gwae chwi'r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.
25. Gwae chwi'r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi'r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26. Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi.
27. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt:
28. Bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant.
29. Ac i'r hwn a'th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.
30. A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo'n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.
31. Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
32. Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru'r rhai a'u câr hwythau.
33. Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.
34. Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
35. Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.