Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:13-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;

14. Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus;

15. Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes;

16. Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17. Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a'r dyrfa o'i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i'w hiacháu o'u clefydau,

18. A'r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd.

19. A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.

20. Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.

21. Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch.

22. Gwyn eich byd pan y'ch casao dynion, a phan y'ch didolant oddi wrthynt, ac y'ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.

23. Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r proffwydi.

24. Eithr gwae chwi'r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.

25. Gwae chwi'r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi'r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.

26. Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6