Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau'r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.

9. Oblegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;

10. A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.

11. Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.

12. A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.

13. Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.

14. Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

15. A'r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i'w wrando ef, ac i'w hiacháu ganddo o'u clefydau.

16. Ac yr oedd efe yn cilio o'r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.

17. A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu'r Arglwydd i'w hiacháu hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5