Hen Destament

Testament Newydd

Luc 24:40-53 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.

41. Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?

42. A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43. Yntau a'i cymerodd, ac a'i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.

44. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a'r proffwydi, a'r salmau, amdanaf fi.

45. Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.

46. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47. A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.

48. Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.

49. Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.

50. Ac efe a'u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'u bendithiodd hwynt.

51. Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i'r nef.

52. Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr:

53. Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 24