16. Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.
17. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw'r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?
18. Ac un ohonynt, a'i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?
19. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a'r holl bobl;
20. A'r modd y traddododd yr archoffeiriaid a'n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef.
21. Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai'r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
22. A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:
23. A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw.
24. A rhai o'r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai'r gwragedd: ond ef nis gwelsant.
25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu'r holl bethau a ddywedodd y proffwydi!
26. Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant?
27. A chan ddechrau ar Moses, a'r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.
28. Ac yr oeddynt yn nesáu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.
29. A hwy a'i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.