Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.

10. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11. A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12. A'r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.

13. A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a'r llywiawdwyr, a'r bobl,

14. A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai'n gŵyrdroi'r bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt:

15. Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo.

16. Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymaith.

17. Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl.

18. A'r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:

19. (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)

20. Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23